![]() |
||||||||||||||||||||||
|
||||||||||||||||||||||
Prosiect Pyllau a Phobl yn Nyffryn Gwy
Ceir pyllau dwr yn helaeth ledled Prydain gyda thua 95% o ferddyfroedd yn byllau llai na dau hectar. Amcangyfrifwyd cyfanswm o driliwn o byllau ym Mhrydain ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, ond mae'r niferoedd wedi disgyn yn ddramatig drod y can mlynedd a aeth heibio. Mae'r pyllau a erys yn fregus iawn oherwydd y cynnydd mewn llygredd, esgeuluso oherwydd diffyg rheolaeth a diffyg cysylltiadau trwy ynysrwydd uwch. Mae pyllau'n cynnal ystod eang o rywogaethau ac felly maent yn bwysicach o lawer ar gyfer bioamrywiaeth ar lefel ranbarthol a lleol na llynnoedd, nentydd a chamlesi. Cafwyd ychydig o ddiogelwch I byllau'n ddiweddar trwy gyfrwng y Cynllun Gweithredu Cynefin Pyllau newydd, er bod ond amcangyfrif o 20% obyllau'n debygol o gyrraedd y meini prawf. Bydd y prosiect newydd hwn yn mynd rhywfaint o'r ffordd tuag at adnabod lleoliad pyllau a mesur rhywfaint o'u hansawdd. Byddwn hefyd yn gweithio gyda pherchnogion y pyllau i annog rheolaeth dda o hen byllau a chreu pyllau newydd o ddyluniad da. Mae Prosiect Miliwn o Byllau sydd yn nwylo Ymddiriedolaeth Cadwraeth Pyllau newydd lunio cyngor newydd ardderchog ar greu pyllau o ddwr croyw, glân a gall helpu gyda chyngor a chyllid ar gyfer prosiectau aml-byllau ar raddfa eang Pyllau newydd creu ar byws Abrerhonddu gan . Diolch am 'Million Ponds Project' a 'Biffaward'. Nod prosiect Pyllau a Phobl yw sefydlu a chynnal rhwydwaith o wirfoddolwyr yn nalgylch Gwy er mwyn:
Yn y pen draw, ein gobaith yw atal dirywiad a cholled pyllau sydd eisoes yn bodoli ac annog creu pyllau newydd o ddwr croyw glân. Diolch i Amgylchedd Cymru am ariannu'r prosiect hwn. |
||||||||||||||||||||||
|
||||||||||||||||||||||
![]() |
||||||||||||||||||||||